\n'; var content=''; if (document.getElementsByTagName != null) { var headTags = document.getElementsByTagName("head"); if (headTags.length > 0 && mode=="") html += headTags[0].innerHTML; } html += '\n\n\n'; var printReadyElem = document.getElementById("PrintContent"); if (printReadyElem != null) { content += printReadyElem.innerHTML; } else { alert("Could not find the printReady section in the HTML"); return; } var re = new RegExp ('Print this report', 'gi') ; content = content.replace(re, '') ; var ree = new RegExp ('View in Excel', 'gi') ; content = content.replace(ree, '') ; //Opera 6.04 fix, doesn't work so display error if (is_opera6) { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } else if(mode=="Excel"){ var re2 = new RegExp ('', 'gi') ; content = content.replace(re2, '') ; document.exportForm.excelContent.value=content document.exportForm.submit() } else{ html += content + '\n\n'; var printWin = window.open("","printSpecial"); printWin.document.open(); printWin.document.write(html); printWin.document.close(); if (gAutoPrint) printWin.print(); } } else { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } } //-->
Construct Wales
Dyddiadur Ein Partneriaid Astudiaeth Achos Daflenni Ffeithiau Cycylltwch â ni
English
Cymraeg
Case Studies
Rhannwch straeon llwyddiant cwmnïau sydd eisoes yn gweithio gydag Adeiladu Cymru ac yn hybu´r diwydiant adeiladu yng Nghymru. Darllenwch ein hastudiaethau achos a gweld nid yn unig sut y medrai´ch busnes fanteisio ond hefyd sut y medrwch sicrhau canlyniadau i Gymru a´i phobl.
Case Studies
Astudiaeth Achos
CREATIVE PRODUCTS (SOUTH WALES) LTD

Y CWMNI

Mae Creative Products (South Wales) Ltd yn cynhyrchu unedau cegin yn ôl mesuriadau unigol y cwsmer, gan ganolbwyntio ar y farchnad sylweddol o dai cymdeithasol.

 

EIN HYMWNEUD AG ADEILADU CYMRU/CONSTRUCT WALES

Mae Valleys to Coast ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwsmer hirdymor i Creative Products drwy bartneriaeth gadwyn gyflenwi â Connaughts, yn ogystal â thrwy gytundeb cyflenwi uniongyrchol. Roedd Creative Products yn awyddus i gymryd rhan yn Adeiladu Cymru/Construct Wales er mwyn gwella ymhellach eu hawch cystadleuol drwy edrych ar effeithlonrwydd posibl yn y broses o gynhyrchu a thrwy leihau gwastraff.

 

BETH RYDYM WEDI LLWYDDO I`W WNEUD

Drwy Adeiladu Cymru/Construct Wales, ymgymerodd y cwmni â gwaith ar fapio prosesau yn barhaus ac ar lif prosiectau. Y nod oedd deall sut mae cydrannau yn symud o gwmpas y ffatri yn ystod cynhyrchu, a dod o hyd i fannau lle mae`n bosibl y gellir lleihau costau. Mae llunio cyfarwyddiadau i`r gweithlu ar gydosod yr unedau wedi arwain at fwy o hyblygrwydd ac at broses gydosod gyflymach a mwy effeithlon.

Yn ychwanegol at hyn, mae ymwneud ag Adeiladu Cymru/Construct Wales wedi helpu Creative Products i ddechrau defnyddio systemau mesur safon er mwyn monitro perfformiad mewnol a lefelau bodlonrwydd y cwsmer.

Creative Products yw’r cwmni cyntaf yn y prosiect i gyrraedd Lefel 2, Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd. Mae’r ymroddiad hwn i wella’r amgylchedd ac i ganolbwyntio ar well effeithlonrwydd wedi sbarduno gosod llosgydd coed yn y ffatri. Y canlyniad yw bod 90-95% o’r pren gwastraff a gynhyrchir yn y broses o gynhyrchu nawr yn cael ei ailgylchu, gan leihau’n sylweddol cost mynd â gwastraff oddi ymaith, yn ogystal â lleihau biliau gwresogi.

Y BUDDION

"Rydym yn dechrau gweld canlyniadau cadarnhaol iawn o`m hymwneud ag Adeiladu Cymru/Construct Wales," meddai Nigel Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Creative Products. "Mae mwy o hyblygrwydd yn golygu ein bod yn gallu ymateb yn gyflymach i anghenion cwsmeriaid. Ac rydym yn gallu trosglwyddo''r costau is i''n cwsmeriaid drwy roi mwy o werth iddynt am eu harian."

"O ganlyniad uniongyrchol i''r prosiect, mae ein trosiant wedi cynyddu ac rydym wedi cynyddu ein gweithlu o 200%. Er ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd, rydym yn rhagweld gwelliannau pellach a thyfiant a fydd yn parhau."

 
Digwyddiadau´r Dyfodol
Cyrsiau, gweithdai a seminarau.

Mwy
Cael y ffeithiau
Mwy
Dod i gysylltiad
  Cysylltu gydag un o bartneriaid Adeiladu Cymru.

Mwy
Argraffu'r dudalen
Amcan 1 Telerau ac Amodau Polisi Preifatrwydd Cyraeddadwy Map y safle