|
Y BUDDION “Wedi inni adnabod y gosodiad delfrydol, gallwn yn awr ddefnyddio’r fideo i hyfforddi ein gweithlu i adlewyrchu’r dull hwn o weithio,” esbonia Roy Colman, Rheolydd Datblygu Busnes, Gas Care. “Mae hyn yn golygu y gallwn leihau problemau sy’n dod ar ein traws wrth osod y systemau, ac mae ein cwsmeriaid yn hapus gan ein bod yn cwblhau gwaith mewn ffordd gyson”. “Rydym hefyd wedi gallu arbed arian sylweddol i’r cwsmer, gan ein bod yn gwybod pa faint o amser bydd y gwaith yn ei gymryd, ac i ni’n hunain hefyd, gan nad ydym yn gwastraffu deunyddiau. Rydym yn amcangyfrif ein bod yn arbed £100 o gostau ar gyfer pob gosodiad”. “Bwysicaf oll, gydag archebion blaen sylweddol, rydym wedi gallu cyflogi mwy o bobl a chyfrannu at yr economi leol”. |