Gall gwelliannau mewn prosesau busnes arwain at gynnydd syfrdanol mewn gallu cystadleuol, proffidioldeb a boddhad. Yr allwedd i wella proses busnes yw dynodi gweithgareddau’r cwmni sy’n ychwanegu gwerth. Dylai gwerth bob amser gael ei weld o safbwynt cleient ac mae’n fantol rhwng anghenion a chost. Yn gynyddol caiff tendrau adeiladwaith eu hennill ar gyfuniad o ansawdd a chost, neu mewn geiriau eraill ‘gwerth gorau’.
Mae proses graidd y rhan fwyaf o gwmnïau adeiladwaith yn dechrau gyda dynodi’r farchnad ac yn dod i ben gyda chwblhau’r cyfnod atebolrwydd diffygion. Ychwanegir gwerth o fewn y broses hon a cheir costau. Ym marchnad heddiw gall yr elw fod yn 2% ac ychydig o gwmpas a rydd hyn pan aiff pethau o chwith. Mae’n aml demtasiwn i gynyddu’r elw hwn drwy ostwng costau drwy ddeunyddiau rhatach neu drwy ddodi pwysau ar isgontractwyr. Yn anffodus, mae gan y dulliau hyn yn aml effaith niweidiol ar ansawdd y prosiect ac felly, o safbwynt y cleient, maent yn rhoi gostyngiad mewn gwerth a boddhad.
Mae gwelliant proses busnes yn edrych ar y meysydd hynny lle na ychwanegir gwerth ac yn ceisio eu dileu. Gall yr aneffeithiolrwydd a’r gwastraff hwn gyfrif am 40-50% o’r costau ac maent yn aml yn sylweddol fwy. Gall deall a gwella’r prosesau felly gael effaith niweidiol ar ansawdd y prosiect ac felly, o safbwynt y cleient, rhoddant ostyngiad mewn gwerth a boddhad. Mae enghreifftiau o weithgareddau nad ydynt yn ychwanegu gwerth yn cynnwys trosiant staff uchel, damweiniau, unioni diffygion a mynd ar ôl cyflenwyr. Mae amrediad eang o weithgareddau y medrid eu dadansoddi ac mae’n bwysig canolbwyntio ar ychydig o elfennau allweddol yn hytrach na cheisio unioni popeth ar unwaith. Drwy weithdrefn reoledig, medrir gwneud gwelliannau ar draws y sefydliad gan roi llif gwaith effeithiol ac effeithlon.
Mae gwella proses yn dilyn o ddealltwriaeth glir ohono, a chyflawnir hyn drwy fapio. Dull syml o fapio yw cael y rhai sy’n gysylltiedig â’r gweithgaredd i ddynodi, gan ddefnyddio pegiau a nodiadau glynu, sut mae’r gweithgaredd yn gweithio ar hyn o bryd. Drwy’r ymarferiad syml hwn, bydd pobl yn dechrau gweld meysydd o wastraff ac oedi y medrir mynd i’r afael â hwy i gynhyrchu proses fwy syml a medrir wedyn ffurfio cynllun i weithredu’r datrysiad arfaethedig. Mae’n bwysig adolygu unrhyw welliannau arfaethedig i sicrhau y daethant y ffordd fabwysiedig o weithio.