\n'; var content=''; if (document.getElementsByTagName != null) { var headTags = document.getElementsByTagName("head"); if (headTags.length > 0 && mode=="") html += headTags[0].innerHTML; } html += '\n\n\n'; var printReadyElem = document.getElementById("PrintContent"); if (printReadyElem != null) { content += printReadyElem.innerHTML; } else { alert("Could not find the printReady section in the HTML"); return; } var re = new RegExp ('Print this report', 'gi') ; content = content.replace(re, '') ; var ree = new RegExp ('View in Excel', 'gi') ; content = content.replace(ree, '') ; //Opera 6.04 fix, doesn't work so display error if (is_opera6) { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } else if(mode=="Excel"){ var re2 = new RegExp ('', 'gi') ; content = content.replace(re2, '') ; document.exportForm.excelContent.value=content document.exportForm.submit() } else{ html += content + '\n\n'; var printWin = window.open("","printSpecial"); printWin.document.open(); printWin.document.write(html); printWin.document.close(); if (gAutoPrint) printWin.print(); } } else { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } } //-->
Construct Wales
Dyddiadur Ein Partneriaid Astudiaeth Achos Daflenni Ffeithiau Cycylltwch â ni
English
Cymraeg
Fact Sheet
Popeth rydych angen ei wybod am arferion gweithio allweddol o fewn y diwydiant adeiladu. Cynlluniwyd ein ffaithddalenni i´ch hysbysu am y dulliau a gweithdrefnau diweddaraf, y medrwch eu mabwysiadu i helpu i hyrwyddo eich busnes.
Fact Sheet
Case Studies
ADEILADWAITH DARBODUS

Mae adeiladwaith darbodus yn athroniaeth sy’n seiliedig ar gysyniadau gweithgynhyrchu darbodus ac yn ymwneud â gwella’r broses adeiladwaith i gyflenwi’n broffidiol yr hyn y mae’r cwsmer ei angen. Mae meddwl darbodus ynglŷn â dylunio a gweithredu’r broses gywir a bod â’r systemau, adnoddau a mesurau cywir i gyflenwi pethau’n iawn y tro cyntaf. Mae ei ffocws ar werth, yn fwy nag ar gost, ac mae’n anelu i ddileu''r holl gydrannau a phrosesau nad ydynt yn ychwanegu gwerth tra’n gwella’r rhai sy’n ychwanegu gwerth. Y nod yw proses integredig lle caiff cynnyrch eu tynnu gan y cwsmer, ac yn llifo o un cam ychwanegu gwerth i’r nesaf.

Mae prosiectau adeiladwaith yn cynnwys elfennau sylweddol heb fod yn ychwanegu gwerth, a elwir yn wastraff. Mae Ysgol Fusnes Caerdydd wedi asesu’r diwydiant ac yn amcangyfrif fod 40% o weithgareddau uniongyrchol neu gefnogaeth yn ychwanegu gwerth at brosiect tra bod y 60% arall yn wastraff. Gall gwastraff fod ar sawl ffurf o fewn adeiladwaith ond mae rhai enghreifftiau cyffredin yn cynnwys: gweithio allan o ddilyniant, diffygion, trafod dwbl, cyflenwi deunydd yn hwyr neu o flaen amser, a chynnyrch a gwasanaethau nad ydynt yn ateb anghenion y cwsmer.

Mae darbodus yn dibynnu ar newidiadau ar lefel ymarferol, ac yn effeithio ar arferion gwaith bob dydd. Mae’n dynodi union ofynion y cleient a’r prosesau adeiladwaith sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i gyflenwi hyn. Mae asesiad o’r prosesau hyn yn dynodi lle nad yw gwerth yn cael ei ychwanegu ac yn eu dileu, gan roi cynnydd mewn effeithlonrwydd. Mae dosbarthiad amserol deunyddiau neu ostwng eitemau snagio yn enghreifftiau amlwg o lle medrir dileu gwastraff o brosesau adeiladwaith, gan arwain at well cynnyrch ar gyfer y cleient a chynnydd yn yr elw i gontractwyr.

Medrir gweithredu egwyddorion meddwl darbodus i’r diwydiant adeiladwaith ond dim ond pan mae’r ffocws ar wella’r holl broses y bydd yn effeithiol. Mae hyn yn golygu fod angen i bob parti fod yn ymroddedig i’r broses a bydd felly yn fwy perthnasol i brosiectau lle mae partneru actif.

Mae meddwl darbodus yn weithredol ar bob cam o brosiect adeiladwaith, fel a ddangosir yn yr ychydig enghreifftiau dilynol:

• Dylunio - ffocws ar werth cleient, cydweithredu agos rhwng dylunwyr, contractwyr a chyflenwyr arbenigol, dylunio ar gyfer safoni a chyn`null ymlaen llaw

• Caffaeliad - rheolaeth cadwyn gyflenwi, tryloywder costau, partneru

• Cynhyrchiant - meincnodi, rhaglennu a dynodi llwybr critigol yn glir

• Adeiladwaith - cyfathrebu clir, hyfforddiant i ddarparu gweithlu uchel ei gymhelliant a hyblyg, adrodd cynnydd dyddiol

Crëwyd Rhaglen Gwella Adeiladwaith Darbodus (CLIP) yn 2003 i gefnogi diwydiant adeiladwaith y Deyrnas Gyfunol, wedi ei ysbrydoli gan adroddiad Egan, i wella ei berfformiad. Mae canlyniadau saith prosiect peilot, yn seiliedig ar brosiectau adeiladwaith go iawn, wedi dangos gwelliannau cynhyrchiant o hyd at 50% a gostyngiadau mewn amserau arweiniol o 40%.

Mae Adeiladu Cymru wedi dynodi fod Adeiladwaith Darbodus yn darparu ffordd i wneud mwy gyda llai tra’n rhoi i gwsmeriaid yn union yr hyn y maent eisiau. Mae gan y rhaglen aseswyr profiadol a all gynorthwyo i ddynodi gwastraff a sicrhau arbedion sylweddol i gwmnïau o bob maint drwy gydol y broses adeiladwaith.

 
Digwyddiadau´r Dyfodol
Cyrsiau, gweithdai a seminarau.

Mwy
Straeon Llwyddiant
Mwy
Dod i gysylltiad
  Cysylltu gydag un o bartneriaid Adeiladu Cymru.

Mwy
Argraffu'r dudalen
Amcan 1 Telerau ac Amodau Polisi Preifatrwydd Cyraeddadwy Map y safle