Caiff perfformiad adeiladwaith yn aml ei fesur ar p’un ai a gyflenwir y prosiect ar amser ac ar gyllideb. Mae ffactorau eraill mesuradwy, megis boddhad cleient a gwerth am arian, sy’n anos eu meintioli ac mae hyn yn ei gwneud yn galed i edrych am ffyrdd o wella’r broses ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Mae mesur perfformiad yn ffordd o wirio union berfformiad prosiectau yn erbyn targedau drwy gydol ei oes ac yn ei gymharu gyda’r diwydiant adeiladwaith ehangach.
Mae mesur perfformiad yn cymharu prosiectau’r cleient gyda phwrcaswyr eraill prosiectau adeiladwaith ac yn edrych ar fanylion y prosiect e.e. sicrwydd cost, nifer diffygion, amlder damweiniau ac ati o gymharu gyda pherfformiad y diwydiant drwyddo draw. Gelwir y dull mesur a ddefnyddir yn meincnodi, gyda meincnod yn cael ei ddiffinio fel y perfformiad gorau a gyflawnwyd yn ymarferol. Mae’r broses feincnodi felly nid yn dyheu i’r ddelfryd fythegol ond tuag at fod y gorau yn y busnes.
Mae meincnodi yn ddefnyddiol wrth ganolbwyntio gwelliannau ar feysydd critigol ac yn cynhyrchu ffordd o gymharu’r canlyniadau cyn ac ar ôl ymyriad. Mae sawl dull o feincnodi yn cynnwys un yn benodol ar gyfer y diwydiant adeiladwaith ar ffurf ‘dangosyddion perfformiad allweddol y diwydiant adeiladwaith’. Mae’r dangosyddion perfformiad yn rhoi dulliau ar gyfer asesu deg maes cyffredin megis diffygion (graddir 1 i 10) a diogelwch (cyfradd damweiniau adroddadwy fesul 100,000 o gyflogedigion). Mae’r dangosyddion perfformiad yn rhoi dull asesu rhwydd ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw brosiect neu gwmni ac adrodd y canlyniadau ar ffurf siart syml.