\n'; var content=''; if (document.getElementsByTagName != null) { var headTags = document.getElementsByTagName("head"); if (headTags.length > 0 && mode=="") html += headTags[0].innerHTML; } html += '\n\n\n'; var printReadyElem = document.getElementById("PrintContent"); if (printReadyElem != null) { content += printReadyElem.innerHTML; } else { alert("Could not find the printReady section in the HTML"); return; } var re = new RegExp ('Print this report', 'gi') ; content = content.replace(re, '') ; var ree = new RegExp ('View in Excel', 'gi') ; content = content.replace(ree, '') ; //Opera 6.04 fix, doesn't work so display error if (is_opera6) { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } else if(mode=="Excel"){ var re2 = new RegExp ('', 'gi') ; content = content.replace(re2, '') ; document.exportForm.excelContent.value=content document.exportForm.submit() } else{ html += content + '\n\n'; var printWin = window.open("","printSpecial"); printWin.document.open(); printWin.document.write(html); printWin.document.close(); if (gAutoPrint) printWin.print(); } } else { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } } //-->
Construct Wales
Dyddiadur Ein Partneriaid Astudiaeth Achos Daflenni Ffeithiau Cycylltwch â ni
English
Cymraeg
Fact Sheet
Popeth rydych angen ei wybod am arferion gweithio allweddol o fewn y diwydiant adeiladu. Cynlluniwyd ein ffaithddalenni i´ch hysbysu am y dulliau a gweithdrefnau diweddaraf, y medrwch eu mabwysiadu i helpu i hyrwyddo eich busnes.
Fact Sheet
Case Studies
PARTNERU

Cydnabyddir yn eang fod y diwydiant adeiladwaith yn seiliedig ar ddynesiad gwrthwynebus at weithio ac nid yw hyn o reidrwydd yn sicrhau’r gwerth gorau i gleientiaid, contractwyr neu gyflenwyr. Fel y rhan fwyaf o syniadau da, mae cysyniad partneru yn syml: medrir cyflawni mwy drwy gydweithredu na thrwy wrthwynebu. Mae’r dynesiad tîm yn anelu i gynyddu ymddiriedaeth sydd yn ei dro yn gostwng costau, yn annog arloesedd ac yn gwella ansawdd gwasanaethau.

Mae partneru yn hyrwyddo perfformiad gwell drwy berthynas fusnes gydweithredol yn seiliedig ar werth gorau yn hytrach na’r gost isaf. Mae contractau yn dal i fod yn seiliedig ar gystadleuaeth ond cânt eu barnu ar gyfuniad o ansawdd a chost. Mae datblygu agoredrwydd ac ymddiriedaeth, un ai ar sail prosiect penodol neu dros gyfnod strategol tymor hwy, o fudd i bawb sy’n gysylltiedig. Mae ffocws partneriaeth ar anghenion y cwsmer ac, yn yr amgylchiadau cywir, gall roi gwobrau sylweddol. Dangosodd astudiaethau y gall partneru prosiect sicrhau arbedion o 2-10% ar gost adeiladu prosiectau unigol, gyda chynghreiriau strategol uwch yn rhoi arbedion o hyd at 40%.

Nid gostwng cost yw unig wobr partneru. Mae’r buddion cysylltiedig yn cynnwys:

• Amser rhaglen fyrrach drwyddi draw

• Haws rhagweld amser a chostau

• Cynyddu boddhad cleientiaid

• Gwell elw i gontractwyr a chyflenwyr

• Mwy o ddealltwriaeth

• Gwerth gwell

• Gwella gallu adeiladu a gostwng gofynion cynnal a chadw drwy ymgyfraniad cynnar contractwyr

Mae nifer gynyddol o gleientiaid a thimau dylunio yn defnyddio gweithio cydweithredol i sicrhau cynnyrch gwerth gorau. Mae’r syniad hwn o ‘gwerth gorau’ yn dod yn gynyddol bwysig i amrediad eang o gleientiaid, yn fwyaf amlwg yn y sector cyhoeddus. Gall partneru fod ar sawl ffurf, o gytundebau pwrpasol unigol i gontractau cydnabyddedig megis Opsiwn Partneriaeth ECC ac Adendwm Partneru ICE, ond maent oll yn rhoi modd o sicrhau gwell dealltwriaeth a gweithio i sicrhau ‘gwerth gorau’.

Mae partneru yn galw am newid yn y diwylliant y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio ynddo ar hyn o bryd ac mae cefnogaeth adeiladol uwch reolwyr ar draws y partïon yn hanfodol. Mae methiannau prosiectau yn mabwysiadu cytundebau partneru yn deillio o ddiffyg chefnogaeth a chwalfa ymddiriedaeth. Nid oes unrhyw sail ar gyfer partneru os nad yw’r ddwy ochr yn cytuno ar nodau realistig a chyraeddadwy. Fodd bynnag, bydd y dynesiad cywir yn rhoi cyd-ddealltwriaeth sy’n arwain at welliant parhaol, gwell effeithlonrwydd a mantais gystadleuol.

Mae Adeiladu Cymru wedi dynodi y gall prosiectau adeiladwaith o unrhyw faint, hyd neu gost sicrhau buddion drwy bartneru. Mae gan y rhaglen yr arbenigedd i ffurfio a rhedeg prosiectau a phartneriaethau strategol ynghyd â chyngor ar gyfer eu cymhwyso’n llwyddiannus.

 
Digwyddiadau´r Dyfodol
Cyrsiau, gweithdai a seminarau.

Mwy
Straeon Llwyddiant
Mwy
Dod i gysylltiad
  Cysylltu gydag un o bartneriaid Adeiladu Cymru.

Mwy
Argraffu'r dudalen
Amcan 1 Telerau ac Amodau Polisi Preifatrwydd Cyraeddadwy Map y safle