\n'; var content=''; if (document.getElementsByTagName != null) { var headTags = document.getElementsByTagName("head"); if (headTags.length > 0 && mode=="") html += headTags[0].innerHTML; } html += '\n\n\n'; var printReadyElem = document.getElementById("PrintContent"); if (printReadyElem != null) { content += printReadyElem.innerHTML; } else { alert("Could not find the printReady section in the HTML"); return; } var re = new RegExp ('Print this report', 'gi') ; content = content.replace(re, '') ; var ree = new RegExp ('View in Excel', 'gi') ; content = content.replace(ree, '') ; //Opera 6.04 fix, doesn't work so display error if (is_opera6) { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } else if(mode=="Excel"){ var re2 = new RegExp ('', 'gi') ; content = content.replace(re2, '') ; document.exportForm.excelContent.value=content document.exportForm.submit() } else{ html += content + '\n\n'; var printWin = window.open("","printSpecial"); printWin.document.open(); printWin.document.write(html); printWin.document.close(); if (gAutoPrint) printWin.print(); } } else { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } } //-->
Construct Wales
Dyddiadur Ein Partneriaid Astudiaeth Achos Daflenni Ffeithiau Cycylltwch â ni
English
Cymraeg
Fact Sheet
Popeth rydych angen ei wybod am arferion gweithio allweddol o fewn y diwydiant adeiladu. Cynlluniwyd ein ffaithddalenni i´ch hysbysu am y dulliau a gweithdrefnau diweddaraf, y medrwch eu mabwysiadu i helpu i hyrwyddo eich busnes.
Fact Sheet
Case Studies

Mae peirianneg gwerth yn awr yn gymharol gyffredin o fewn y diwydiant adeiladwaith ond caiff yn aml ei gamddefnyddio yn unig fel ffordd o dorri costau. Mae torri costau heb ddadansoddiad cywir yn debygol o ostwng gwerth prosiect a pheidio rhoi’r hyn y maent eisiau i’r cleient a budd-ddeiliaid. Pan y’i gweithredir yn iawn, mewn dynesiad systematig, mae’n optimeiddio’r gost oes gyfan heb niweidio''r perfformiad ansawdd neu ddibynadwyedd y prosiect. Mae hefyd fuddion ehangach i beirianneg gwerth sy’n cynnwys:

• Eglurhad o’r brîff

• Gweithio tîm amlddisgyblaethol

• Dynodi risgiau

• Dynodi cynlluniau a datrysiadau eraill

Medrir defnyddio peirianneg gwerth ar bob cam o brosiect o’r cychwyn cyntaf, lle caiff anghenion cleientiaid a budd-ddeiliaid eu dynodi, drwy ddyluniad ac adolygiadau manwl o amgennau posibl i’r cam adeiladwaith lle datrysir materion safle.

Caiff pwysigrwydd peirianneg gwerth ei gydnabod gan fwyafrif cleientiaid, contractwyr ac aelodau tîm dylunio. Dywed Cyfarwyddyd Caffael Uned Ganolog Trysorlys EM: ‘Mae athroniaeth a thechnegau rheolaeth gwerth yn rhoi dynesiad strwythuredig at archwilio a datblygu prosiect a fydd yn cynyddu tebygrwydd cyflawni’r gofynion hyn fel y gwerth optimwm am arian.” Er mwyn cael y budd mwyaf o beirianneg gwerth, fodd bynnag, dylai’r broses fod yn strwythuredig ac archwiliadwy.

Fel arfer gwneir peirianneg gwerth drwy weithdai y medrir eu hwyluso’n fewnol neu’n allanol. Mae penodi hwyluswyr yn galw am ystyriaeth ofalus er mwyn sicrhau’r canlyniad a ddymunir. Bydd hwyluswyr mewnol yn gyfarwydd gyda’r prosiect ond efallai na fydd ganddynt gymaint o syniadau a ‘set newydd o lygaid’ allanol. Yn aml bydd strwythur y gweithdy a’r dewis hwylusydd yn dibynnu ar werth prosiect a’i lefel o risg i’r cleient. Yn y naill achos neu’r llall mae’n hanfodol fod gofynion allweddol y cleient a’r budd-ddeiliaid yn cael eu hamlinellu ac y cynhyrchir syniadau mewn amgylchedd ‘rhydd o feirniadaeth’.

Bydd defnydd cywir peirianneg gwerth yn osgoi’r risgiau posibl y bydd llawer yn y diwydiant adeiladu yn eu hadnabod:

• gwybodaeth annigonol gan, neu gyfranogiad gan, y cleient a budd-ddeiliaid

• cefnogaeth annigonol gan uwch reolwyr

• cynnal ymarferiad yn rhy hwyr yn y broses ddylunio

• ymwrthod newid a gwrthdaro personol

O’i ddefnyddio’n gywir, gall peirianneg gwerth wella’r cynnyrch terfynol a hyrwyddo gweithio’r tîm prosiect. Yn aml nod yr ymarferiad yw gostwng cost, a medrir cyflawni hyn yn llwyddiannus heb gyfaddawdu ar ansawdd na rhaglen.

Gall Adeiladu Cymru gynnig hwyluswyr i gynorthwyo mewn ymarferiadau peirianneg gwerth llwyddiannus i ddarparu gwerth gorau i bob parti. Gall y rhaglen helpu i wireddu manteision peirianneg gwerth tra’n osgoi’r risgiau sy’n rhy gyffredin o lawer yn y diwydiant ar hyn o bryd.

 
Digwyddiadau´r Dyfodol
Cyrsiau, gweithdai a seminarau.

Mwy
Straeon Llwyddiant
Mwy
Dod i gysylltiad
  Cysylltu gydag un o bartneriaid Adeiladu Cymru.

Mwy
Argraffu'r dudalen
Amcan 1 Telerau ac Amodau Polisi Preifatrwydd Cyraeddadwy Map y safle