
Caiff rheolaeth cadwyn gyflenwi a chynghreirio strategol ei ddefnyddio’n fwy eang, fodd bynnag caiff yn aml ei gamddefnyddio neu mae camsyniad ohono. Mae rhai’n credu nad yw’r trefniadau presennol ond yn ceisio cynyddu proffidioldeb y contractydd arweiniol ac mae hyn yn arwain at ddiffyg ymddiriedaeth rhwng partïon. Gwelir partneru fel un dull o fynd i’r afael â’r diffyg ymddiriedaeth hwn a dylai hefyd osgoi’r rhwystr sylweddol arall o dendro pris isaf.
I reolaeth cadwyn gyflenwi fod yn llwyddiannus, dylai fod perthynas gynyddol glos rhwng cwsmer a chyflenwr a ddylai arwain at:
• Datblygu perthynas tymor hir gyda chyflenwyr
• Mwy o ymgyfraniad ac ymgyfraniad cynharach gan gyflenwyr
• Datblygu cyd-ymddiriedaeth
• Ffurfio cymdeithasau cyflenwi
Mae angen ymrwymiad ar y lefel uchaf o reolaeth yn ogystal ag ar lefel safle ac i wneud i waith partneru cadwyn gyflenwi weithio. Cydnabyddir mai’r contractydd arweiniol yw’r allwedd i sefydlu diwylliant partneru a bod hyn yn gweithio orau lle mae’r cleient hefyd yn ymroddedig ac ymrwymedig.
Mae Adeiladu Cymru yn cydnabod y dylid sefydlu partneriaethau cadwyn gyflenwi yn ei ddymuniad i ehangu arfer gorau a rhyddhau elw newydd o fewn y diwydiant. Mae gan y rhaglen brofiad eang mewn adeiladwaith a sectorau eraill a all gynorthwyo wrth sefydlu a gweithredu partneriaethau cadwyn gyflenwi penodol.