\n'; var content=''; if (document.getElementsByTagName != null) { var headTags = document.getElementsByTagName("head"); if (headTags.length > 0 && mode=="") html += headTags[0].innerHTML; } html += '\n\n\n'; var printReadyElem = document.getElementById("PrintContent"); if (printReadyElem != null) { content += printReadyElem.innerHTML; } else { alert("Could not find the printReady section in the HTML"); return; } var re = new RegExp ('Print this report', 'gi') ; content = content.replace(re, '') ; var ree = new RegExp ('View in Excel', 'gi') ; content = content.replace(ree, '') ; //Opera 6.04 fix, doesn't work so display error if (is_opera6) { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } else if(mode=="Excel"){ var re2 = new RegExp ('', 'gi') ; content = content.replace(re2, '') ; document.exportForm.excelContent.value=content document.exportForm.submit() } else{ html += content + '\n\n'; var printWin = window.open("","printSpecial"); printWin.document.open(); printWin.document.write(html); printWin.document.close(); if (gAutoPrint) printWin.print(); } } else { alert("Sorry, the print ready feature is only available in modern browsers."); } } //-->
Construct Wales
Dyddiadur Ein Partneriaid Astudiaeth Achos Daflenni Ffeithiau Cycylltwch â ni
English
Cymraeg
Fact Sheet
Popeth rydych angen ei wybod am arferion gweithio allweddol o fewn y diwydiant adeiladu. Cynlluniwyd ein ffaithddalenni i´ch hysbysu am y dulliau a gweithdrefnau diweddaraf, y medrwch eu mabwysiadu i helpu i hyrwyddo eich busnes.
Fact Sheet
Case Studies
RHEOLAETH RISG

Ni chaiff prosiectau adeiladwaith eu hadeiladu i’r cynllun gwreiddiol, mae newidiadau yn digwydd dros eu hoes ac mae llawer yn ganlyniad gwireddu risgiau. Mae’r Sefydliad Peirianwyr Strwythurol yn dynodi fod y diwydiant yn neilltuol o wael am reoli newid ac mae gan hyn effaith taro-ymlaen ar ansawdd a chost. Mae lleihau risg felly o fudd uniongyrchol i faes sydd mewn mawr angen cymorth a bydd yn arwain at brosiect gwerth gwell.

Mae rheolaeth risg yn broses i ddynodi problemau posibl a fedrai fod ag effaith negyddol sylweddol ar brosiect, gwerthuso’r risgiau hynny a lleihau eu heffeithiau. Mae gweithredu llwyddiannus yn galw am ymrwymiad, perchnogaeth a dealltwriaeth uwch reolwyr o’r broses.

Mae rheolaeth risg yn dilyn cyfres o gamau, a gynhelir yn aml mewn amgylchedd gweithdy:

• dynodi ac asesu risg

• aseinio effaith a thebygolrwydd y risg

• cynhyrchu cofrestr risg yn graddio’r risgiau a ddynodwyd

• ymateb i’r risg/cymryd mesurau i wrthsefyll

• dyrannu perchnogaeth o’r risg, gall hyn newid drwy gydol oes y prosiect

• sefydlu gweithdrefnau i reoli a monitro’r risgiau

• adolygu’r risgiau yn rheolaidd drwy gydol y prosiect a diweddaru’r gofrestr fel bo angen

Mae’r gofrestr risg yn rhoi dull i bob parti i fonitro ac asesu’r prosiect a gwneud newidiadau fel bo angen. Gall y newidiadau hyn fod i ddyluniad y prosiect, i osgoi gwasanaethau a ddynodwyd er enghraifft, neu yn ystod y cam adeiladu lle medrir mabwysiadu defnyddiau eraill o weithio. Dylid cofio nad yw pob risg yn ganlyniad cyfyngiadau ffisegol, mae risgiau hefyd yn gynhenid mewn penderfyniadau masnachol, cadwyni cyflenwi a gyda phobl i enwi ond rhai.

Mae nifer o systemau sgorio ac nid yw dewis unrhyw un neilltuol yn gritigol. Bydd sgorio risgiau yn dangos mai’r rhai gydag effaith uchel a thebygolrwydd uchel sydd angen y rhan fwyaf o sylw. Unwaith y’u dynodwyd, mae pedwar ymateb posibl i risg:

• osgoi risg - gall effeithiau rhai risgiau fod mor niweidiol i brosiect fel y gall fod angen ail-werthuso’r prosiect gan efallai arwain at ei ganslo neu ei amnewid

• gostwng risg - y cam mwyaf arferol, yn cynnwys ail-ddylunio, dulliau adeiladwaith eraill ac ati

• trosglwyddo risg - efallai na fydd yn bosibl gostwng risg ar gam neilltuol o’r prosiect ac, unwaith y deellir hynny’n iawn, medrir ei drosglwyddo i aelod o’r tîm prosiect i gael ei reoli

• derbyniad risg - os nad yw dim o’r opsiynau eraill yn berthnasol, rhaid i’r cleient dderbyn y risg. Gall y risg fod wedi ei gostwng neu ei rannu fodd bynnag mae rhai yn gynhenid mewn prosiectau adeiladwaith.

Mae’n debygol y bydd pob un o’r pedwar ymateb yn weithredol mewn unrhyw brosiect neilltuol. Mae’n bwysig ailedrych yn rheolaidd ar y gofrestr er mwyn ail-werthuso’r risg, bob amser gyda’r nod o ostwng risg.

Mae Adeiladu Cymru yn cydnabod fod rheolaeth risg yn ddyfais ddefnyddiol wrth sicrhau gwerth gorau a gall gynnig cefnogaeth, cyngor a hwyluso amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai.

 
Digwyddiadau´r Dyfodol
Cyrsiau, gweithdai a seminarau.

Mwy
Straeon Llwyddiant
Mwy
Dod i gysylltiad
  Cysylltu gydag un o bartneriaid Adeiladu Cymru.

Mwy
Argraffu'r dudalen
Amcan 1 Telerau ac Amodau Polisi Preifatrwydd Cyraeddadwy Map y safle